Mab i John Jones, Lleddfa, Machynlleth. Addysgwyd ef yn Ysgol Friars, Bangor; aeth i Goleg Iesu yn Rhydychen yn Chwefror 1804 (ymaelododd yn yr un flwyddyn yn Lincoln's Inn), a graddiodd yn 1808. O 1809 hyd 1815 bu'n gurad Llanfihangel-ysgeifiog (Môn), o 1815 hyd 1819 yn gurad Llanfair-is-gaer, ac o 1819 hyd ei farwolaeth yn rheithor Llanllyfni. Cyhoeddodd saith o bregethau, ond mewn hynafiaethau yr oedd ei brif ddiddordeb; yr oedd yn un o aelodau cynnar Cymdeithas Hynafiaethau Cymru, a sgrifennodd lawer i'w chylchgrawn, Archæologia Cambrensis; sgrifennai hefyd i'r Brython, Golud yr Oes, a chyfnodolion eraill. Arddelai'r ffugenw 'Llef o'r Nant.' Cyhoeddwyd rhai o'i ysgrifau ar wahân, yng Nghaerfyrddin 1822 a Dinbych-y-pysgod 1822, a gadawodd doreth o lawysgrifau ar ei ôl. Bu farw 12 Chwefror 1863, a chladdwyd yn Llanllyfni.
Y mae'n anodd bod yn sicr pa bryd y ganwyd ef - yn ôl Foster, yn 1786 neu 1787, ond yn ôl ei faen coffa yn Llanllyfni, a ddywed ei fod yn 81 pan fu farw, 1782 fyddai'r flwyddyn.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.