JONES, JOHN (1700 - 1770), clerigwr a dadleuwr

Enw: John Jones
Dyddiad geni: 1700
Dyddiad marw: 1770
Rhiant: John Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr a dadleuwr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Daniel Williams

mab John Jones, Llanilar, Sir Aberteifi, ac nid o Gaerfyrddin (D.N.B.) fel y tybid. Aeth i Goleg Worcester, Rhydychen, yn 1721. Urddwyd ef yn offeiriad (1726), a phenodwyd ef i guradiaeth King's Walden, Swydd Hertford, ac wedi hynny Abbot's Ripton, Swydd Huntingdon Derbyniodd ficeriaeth Alconbury (1741-50) yn yr un sir. Er iddo symud a'i benodi'n rheithor Bolnhurst (1750-7), a churad Dr. Young (awdur Night Thoughts) yn Welwyn (1757-65), ac, yn olaf oll, yn ficer Sheephall, Swydd Hertford, fel ' Ficer Alconbury ' yr adwaenir ef. Gwnaeth gais i newid a gwella'r Llyfr Gweddi Gyffredin, a hwnnw ydyw ei brif waith (Free and Candid Disquisitions, 1749); trwyddo crëwyd cyffro ymysg diwinyddion. Nid llai mo'r cyffro pan gyhoeddodd ei Catholic Faith and Practice, 1765. Bu farw 8 Awst 1770.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.