JONES, JOHN (1731 - 1813), Morafiad Cymreig cynnar

Enw: John Jones
Dyddiad geni: 1731
Dyddiad marw: 1813
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Morafiad Cymreig cynnar
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn Llanfaredd gerllaw Llanfair-ym-Muellt, 21 Awst 1731. Fel aelod o seiat Forafaidd y Rhosgoch (sir Faesyfed) a ' ffermwr ' y clywir gyntaf amdano, yn 1755. Erbyn 1762, yr oedd yn aelod o gynulleidfa Llanllieni, ond yn byw yn Llanfihangel-tal-y-llyn, yn briod â merch yr ' Ustus Prothero ' a enwir gan John Wesley yn ei Journal (3 Mai 1743). Ailbriododd, gan symud i Lanllieni i fyw, yn stiward ar stad yn y cyffiniau. Mor fore â 1790, beth bynnag, efe oedd gweinidog cynorthwyol y gynulleidfa. Bu farw 4 Chwefror 1813. Ni wyddys pwy oedd y THOMAS JONES, yntau o Lanfaredd, a oedd yntau'n ymhel â Morafiaeth (Cymm., xlv, 17).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.