Ganwyd 13 Awst 1807, yn Nhyddyn Siôn, Abererch, Sir Gaernarfon, yn fab i Ellis a Catherine Jones. Bu am beth amser yn argraffu yn Llundain, ac o'i swyddfa ef yr ymddangosodd y misolyn Cymraeg, Y Cymro, 1830-1. Dychwelodd i Gymru ac ymunodd â staff y Carnarvon Herald yng Nghaernarfon. Yno y bu am y rhan fwyaf o'i oes. Bu farw 20 Rhagfyr 1875.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.