JONES, JOHN ('Mephiboseth '; 1850 - 1926), llenor

Enw: John Jones
Ffugenw: Mephiboseth
Dyddiad geni: 1850
Dyddiad marw: 1926
Priod: Catherine Jones (née Jones)
Rhiant: Ellen Jones (née Roberts)
Rhiant: John Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llenor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: Idwal Lewis

Ganwyd yn Llangoed, sir Fôn, 7 Ebrill 1850, y pedwerydd o saith plentyn John Jones a'i wraig Ellen Roberts. Ni chafodd fawr addysg, gan iddo ddechrau gweithio yn y chwarel pan oedd yn ifanc, ond yn 1870, pan ddechreuodd bregethu gyda'r Bedyddwyr, bu am dri mis yn ysgol eglwys ei ardal, ac am gwarter neu ddau yn Biwmares. Yn 1872 bu am gyfnod yn bugeilio nifer o eglwysi bychain yn Llŷn cyn cael ei dderbyn i athrofa Llangollen. Yn 1876 derbyniodd alwad eglwys Llanrwst a bu yno am dair blynedd. Yn 1879, symudodd i Aberdâr heb ofal eglwys, eithr dychwelodd i'r Gogledd yn 1880, ac ymsefydlu yn Y Felinheli fel masnachwr, a phregethu'n achlysurol ar y Sul. Yn 1884, wedi helynt a rhwyg a fu yn eglwys Salim, fe'i diarddelwyd, ac ni chydnabyddid ef yn bregethwr rheolaidd gan enwad y Bedyddwyr. Bu'n byw yn Llangefni am flwyddyn, ac wedi gwrthod ei gais am gael ei dderbyn yn ôl i'r weinidogaeth aeth i lawr i'r De, lle bu'n trafaelio dros gyhoeddwyr llyfrau a gwerthu llyfrau a ysgrifennwyd ganddo ef ei hun. Ysgrifennodd hanes diddorol a rhamantus o'i yrfa yn y weinidogaeth yn Llyfr fy llwybr, neu hanes merthyr Cymreig, 1886. Er ei fod yn gloff o'i febyd, teithiodd lawer yng Nghymru a Lloegr a bu'n llwyddiannus fel gwerthwr. Ysgrifennodd nifer o lyfrau a werthodd yn dda: Darlith ar Onestrwydd, 1887, Traethawd ar iawn ddefnyddio amser, a chasgliadau o farddoniaeth a rhyddiaith, Cawell Saethau, 1894, Mafon Mynydd, Lloffion Llafur, Gronynau Gwirionedd, 3 cyf., 1903-7, Bwa Nimrod, 1911, Baner Bywyd. Yn ystod ei fywyd cafodd adegau tywyll a helbulus a bu'n dlawd am flynyddoedd cyn ei farw. Bu'n briod ddwywaith. Yn 1877 priododd Catherine Jones, o Leyn, a fu farw ym Mhorthdinorwig; bu iddynt un ferch. Chwerw a fu hanes ei ail briodas. Y pum mlynedd olaf o'i fywyd bu'n byw yn Llangennech, lle y bu farw 24 Hydref 1926, a'i gladdu yn Llangoed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.