Ganwyd 10 Mehefin 1868, mab John a Jane Jones, Cae'r Gorlan, Llanfrothen. Symudodd y teulu oddi yno i breswylio i Hafod Mynydd, ac fel ' John Hafod Mynydd ' yr adwaenid ' Ioan Brothen ' gan ei gyfeillion. Yr oedd yn un o bump o blant; yr oedd ei chwaer, ' Meirionwen,' yn barddoni hefyd. Cafodd ychydig o addysg yn yr ysgol ddyddiol, ond diolchai fwy am yr addysg a dderbyniodd yn ysgol Sul Siloam, Llanfrothen. Wedi gadael yr ysgol aeth i weini at ffermwyr yn Llanfrothen, a throdd oddi wrthynt i weithio fel labrwr yn chwarel y Rhosydd, Blaenau Ffestiniog. Wedi caledwaith y dydd, arhosai mewn barics yn y chwarel gyda gweithwyr eraill, darllenai lyfrau, a chyfansoddai englynion yn ei oriau hamdden. Ymdrodd lawer ym myd natur a gwyddai am adar, dail, llysiau, a rhedyn yn llawn cystal â neb. Priododd Ellen Jones, Garreg Ganol, Llanfrothen, 30 Tachwedd 1901, ac yno gyda hi y bu byw wedi hynny; ganed iddynt ddau fab a phedair merch. Ysgrifennodd lawer i Cymru (O.M.E.) a Cymru Plant.
Yn 1942 cyhoeddwyd Llinell neu Ddwy, sef casgliad o'i englynion (swyddfa'r Rhedegydd, Blaenau Ffestiniog). Casglodd ' J.W. J. ' gyfrol arall o'i waith yn barod i'r wasg, a throsglwyddodd hi mewn llawysgrif i'r Llyfrgell Genedlaethol. Bu farw 16 Tachwedd 1940, a huna ym mynwent newydd Llanfrothen.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.