Ganwyd ger Capel Llanfihangel ym mhlwyf Abergwili, 1745, yr ieuengaf o bum plentyn John a Mary Morgan. Addolai ei rieni yng nghapel Pant-teg. Prentisiwyd ef yn of fel ei dad, a bu'n gweithio i William Thomas, Llanllwni, a phan symudodd hwnnw i Lanwenog cymerodd yntau at ei efail. Ymaelododd gyda'r Annibynwyr ym Mhencader ac anogwyd ef i bregethu. Galwyd ef i fod yn weinidog yn Rhydybont, Llanybyddair, ac yno yr urddwyd ef, 9 Awst 1775. Bu llwyddiant ar ei weinidogaeth yno ac yn y cylchoedd. Yr oedd yn flaenllaw yng nghyfarfodydd misol a chwarterol yr Annibynwyr. Pregethai'n gyson am gyfnod yn Horeb, Gwernogle, ac Abergorlech. Bu gofal eglwys Pencader arno hefyd dros gyfnod. Cafodd alwad i'r Brychgoed ond dewisodd aros yn Rhydybont. Ffurfiwyd eglwys, ac adeiladwyd capel, ym Maes Nonni drwy ei ymdrechion ef, 1810. Yn 1815, aeth o dan gwmwl, ond adferwyd ef i bregethu a pharhaodd yn weinidog ar eglwys Troedyrhiw, Dihewyd, a sefydlesid ganddo. Bu farw 18 Chwefror 1832, a chladdwyd ef yn Rhydybont. Priododd ddwywaith a bu iddo 11 o blant o'i wraig gyntaf. Codwyd ei fab hynaf, John Jones, yn weinidog, a David Jones yn llawfeddyg, ond bu ef farw yn ieuanc. Disgrifir ef fel dyn cryf, pregethwr ffraeth, uchel-Galfinaidd ei ddiwinyddiaeth, ac amddiffynnwr bedydd babanod.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.