JONES, Syr ALFRED LEWIS (1845 - 1909);

Enw: Alfred Lewis Jones
Dyddiad geni: 1845
Dyddiad marw: 1909
Rhiant: Mary Jones (née Williams)
Rhiant: Daniel Jones
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes
Awdur: Griffith Milwyn Griffiths

Ganwyd 24 Chwefror 1845 yng Nghaerfyrddin, mab Daniel Jones a'i wraig Mary, merch Henry Williams, rheithor Llanedi, Sir Gaerfyrddin. Symudodd y teulu i Lerpwl pan oedd ef yn 2 flwydd oed. Dechreuodd ei yrfa fel prentis llong, a daeth yn glerc yn ffyrm Fletcher and Parr, goruchwylwyr llongau, a dringodd i fod yn rheolwr y ffyrm. Yna, daeth yn un o ddynion blaenllaw ffyrm Elder Dempster, a chwaraeodd ran bwysig yn natblygiad masnach arfordir Gorllewin Affrica, ar dir a môr. Bu ganddo hefyd ran bwysig yn adferiad economaidd y Canary Islands. Yn 1900 gwahoddwyd ef gan Chamberlain, ysgrifennydd y trefedigaethau ar y pryd, i gydweithredu yn natblygiad masnach India'r Gorllewin. Cynorthwyodd yn sefydliad ysgol o feddyginiaeth drofannol yn Lerpwl yn 1899. Ym Mehefin 1902 sefydlodd y Gymdeithas Tyfu Cotwm Brydeinig, ac ym Mehefin 1903 daeth yn gadeirydd y Gymdeithas Ymchwil Trofannol yn Lerpwl. Yr oedd hefyd yn llywydd Cymdeithas Masnachwyr Lerpwl, ac yn aelod o gomisiwn tollau Chamberlain, a ffurfiwyd yn 1904. Yn 1901 gwnaethpwyd ef yn K.C.M.G., ac yn 1905 yn gymrawd anrhydeddus o Goleg Iesu, Rhydychen. Anrhydeddwyd ef hefyd gan lawer o wledydd tramor. Bu farw 13 Rhagfyr 1909.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.