JONES, MARGARET ('Y Gymraes o Ganaan '; 1842 - 1902)

Enw: Margaret Jones
Ffugenw: Y Gymraes O Ganaan
Dyddiad geni: 1842
Dyddiad marw: 1902
Priod: Josey
Rhyw: Benyw
Maes gweithgaredd: Teithio
Awdur: Griffith Milwyn Griffiths

Genedigol o Rosllannerchrugog, sir Ddinbych. Daeth yn adnabyddus am ei theithiau mewn gwledydd tramor. Treuliodd dipyn o amser ym Mhalesteina ac yn Morocco. Cyhoeddwyd detholiad o'i llythyrau o Balesteina i'w theulu fel Llythyrau Cymraes o Wlad Canaan, 1869, a disgrifiad o'i phrofiadau ym Morocco dan y teitl, Morocco a'r hyn a welais yno, 1883.

Ymsefydlodd yn Awstralia, a phriododd ffermwr o'r wlad honno, o'r enw Josey. Bu farw 18 Hydref 1902 yn Redbank Plains, Queensland, Awstralia.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.