Ganwyd ym Mochdre, sir Ddinbych, 1853, mab y Parch. John Jones (1820 - 1886), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Cafodd ei addysg yng Nghaernarfon, Lerpwl, a Llundain. Yn Llundain daeth i gyffyrddiad â Ruskin a Holman Hunt, a chafodd beth hyfforddiant ganddynt yn ei gelfyddyd. Ymroddodd yn gyfan gwbl i'r gwaith o arlunio, gan baentio darluniau o olygfeydd yng Nghymru yn bennaf, yn enwedig y wlad o gwmpas Caernarfon, lle bu'n byw y rhan fwyaf o'i oes, a dyffryn Conwy. Yr oedd ar ei orau yn darlunio golygfeydd mynyddig. Gwnaeth gryn lawer o waith i Cymru (O.M.E.) ac i gyfrolau 'Cyfres y Fil.'
Yn 1882 etholwyd ef yn ' Associate ' o'r Royal Cambrian Academy, ac yn aelod cyflawn yn 1921. Fel rheol byddai ganddo ddarluniau yn arddangosfa flynyddol yr academi yng Nghonwy. Ysgrifennodd rai erthyglau i Cymru.
Yn ei flynyddoedd olaf aeth i fyw i Landudno ac yno y bu farw 30 Rhagfyr 1932. Bu'n briod deirgwaith, ac yr oedd ganddo un mab.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.