JONES, MORGAN (canol y 17eg ganrif), pregethwr o Fedyddiwr yn Neheudir Cymru.

Enw: Morgan Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pregethwr o Fedyddiwr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Thomas Richards

Yr oedd dau o'r enw, anodd iawn eu gwahanu. Disgrifir un fel o Briton Ferry, a bedyddiwyd ef yn Ilston yn 1650; o Lanmadog ym Mrowyr y deuai'r llall, a bedyddiwyd ef ar 30 Hydref 1653; credir bod y cyntaf wedi cael bendith y 'Triers' i fywoliaeth Newcastle (Penybont-ar-Ogwr), a'r llall wedi ei droi allan o blwyf Llanmadog o dan Ddeddf Unffurfiaeth 1662. Dibynna hanes y troi allan ar awdurdod Calamy a'i gludwyr newyddion; y mae dyddio'r digwyddiad ar ddydd du Bartolomeus yn anghywir (fel Bedyddiwr yr oedd Morgan Jones yn gollfarnedig o dan Ddeddf Medi 1660, 12 Charles II, c. 17). Yn ôl Calamy, nid oedd Morgan Jones onid 'honest plowman,' ac anghofia gysoni hynny â'r ffaith ei fod yn cadw ysgol yn Llanelli yn nyddiau'r Adferiad. Cydymffurfio â threfn yr Eglwys oedd rhan Morgan Jones, canys tyngodd y llwon angenrheidiol i fod yn ysgolfeistr o flaen esgob Tyddewi yn gynnar yn 1662. Pa beth a ddaeth o Forgan Jones Newcastle ni wyddys ar hyn o bryd. Rhaid yw bod yn ofalus iawn i gadw y ddau Forgan ar wahân oddi wrth y Morgan Jones arall a fu'n gweini'n deyrngar gydwybodol i Fedyddwyr cylch Abertawe a Llanelli yn neng mlynedd cyntaf y 18fed ganrif.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.