Ganwyd yn Troedyrhiw, plwyf Llywel, sir Frycheiniog. Cafodd freiniau addysgol cyffredin ei ardal yn blentyn. Bu'n was fferm am bum mlynedd mewn teuluoedd crefyddol. Derbyniwyd ef yn aelod yng Nghefnarthen, 20 Ionawr 1782. Aeth y gair ar led am ei ddawn gweddi. Dechreuodd bregethu yng Nghefnarthen pan oedd tua 17 mlwydd oed. Treuliodd bedair blynedd yn ysgol Glandŵr, Sir Benfro, gan roi sylw arbennig i Saesneg a diwinyddiaeth a meistroli mesur o Roeg a Lladin. Ordeiniwyd ef yn Nhrelech a Chapel Iwan, Sir Gaerfyrddin, 13 Mawrth 1770, a threuliodd ei oes weinidogaethol yn yr un cylch. Disgynnodd ysbryd diwygiad grymus ar ei eglwysi dan ddylanwad ei bregethu nerthol, a ffynnodd yr un ysbryd drwy gydol ei weinidogaeth. Uchel Galfin ydoedd o ran ei olygiadau athrawiaethol, ond yn fwy efengylaidd na diwinyddol yn ei bregethau.
Plannodd eglwysi newyddion ym Mlaenycoed, Ffynnon Bedr, a Llwynyrhwrdd. Bu ganddo law arbennig yn sefydlu a chadarnhau eglwysi Saesneg yn ne Penfro, a mawr oedd ei sêl dros yr achos Annibynnol Cymraeg yn Llundain. Daeth i gyfathrach agos â chyfarwyddwyr Cymdeithas Genhadol Llundain. Trwy ei frwdfrydedd ef, David Peter, Caerfyrddin, ac eraill y daeth yr achos cenhadol yn un o'r mudiadau mwyaf pwerus yn eglwysi Sir Gaerfyrddin. Cyhoeddodd Y Dydd yn Gwawrio, 1798 (ar y genhadaeth dramor, gydag emynau - gweler J. Thickens, Emynau a'u Hawduriaid, 220 a 134), Gogoniant y Byd Hwn, 1813, a llyfrynnau eraill. Yr oedd yn un o bregethwyr mwyaf dylanwadol ei gyfnod. Bu farw 23 Rhagfyr 1835.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.