JONES, JOHN MORGAN (1838 - 1921), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Enw: John Morgan Jones
Dyddiad geni: 1838
Dyddiad marw: 1921
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Gwilym Williams

Ganwyd yn Llanddewi-brefi, Sir Aberteifi. Symudodd y teulu i Dowlais a bu yntau'n gweithio yno fel saer coed cyn cynnig ei hun i'r weinidogaeth (1864). Cafodd ei addysg yng Ngholeg Trefeca, 1866-9; ordeiniwyd ef yn 1870, a bu'n gweinidogaethu yn Deri (1869), Ystalyfera (1871), a Trefforest (1873), cyn mynd i eglwys Pembroke Terrace, Caerdydd, lle y bu'n fugail o 1875 hyd 1912. Yn ystod 14 mlynedd olaf ei oes ef oedd goruchwyliwr y Symudiad Ymosodol (y 'Forward Movement'). Bu'n llywydd cymanfa gyffredinol y Methodistiaid Calfinaidd ddwywaith, yn 1897 a 1920, yn llywydd y gymdeithasfa yn y De (1902), yn aelod o fwrdd addysg Caerdydd am flynyddoedd, ac yr oedd yn aelod o gyngor Coleg y Brifysgol, Caerdydd; yn 1920 rhoddwyd iddo radd LL.D. Prifysgol Cymru 'er anrhydedd.' Bu am gyfnodau yn olygydd Y Lladmerydd, Y Drysorfa, a'r Deonglwr; cyhoeddodd gofiant i David Morgan, Pant, Cefncoedycymer yn 1887; ysgrifennodd esboniadau (yn Gymraeg) ar yr Hebreaid, yr Effesiaid, a'r Actau; testun 'Darlith Davies' a draddododd yn 1906 oedd 'Yr Efengylau'; ac yr oedd yn gyd-awdur Y Tadau Methodistaidd, 1895-97. Bu farw 22 Mai 1921. Ganwyd 15 Gorffennaf 1838.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.