Ganwyd 26 Mawrth 1861 ym Margam, Sir Forgannwg, ardal y bu'n gweithio ynddi am beth amser cyn myned i Goleg Arnold yn Abertawe ac oddi yno i Goleg Trefeca. Bu'n weinidog yn y Bwlch, sir Frycheiniog, ac yn Alexandra Road, Abertawe, cyn myned i Goleg S. Ioan, Caergrawnt, yn 1895; graddiodd yn B.A. yn 1898. Yn yr un flwyddyn penodwyd ef yn weinidog capel Methodistaidd Saesneg Hope, Merthyr Tydfil, a bu yno drwy ei oes ac eithrio un ysbaid byr ym Mangor yn 1902. Yr oedd yn ysgolhaig da, ac yn ŵr o argyhoeddiadau cryfion. Cymerai ddiddordeb ymarferol yng nghyflwr cymdeithasol ac economaidd pobl ei ardal. Gwasanaethodd fel ysgrifennydd a chadeirydd cynhadledd eglwysi Saesneg yr achos Presbyteraidd yng Nghymru. Cyhoeddodd lyfryn ar John Calvin dan y teitl, John Calvin: ei fywyd a'i waith, 1909, ac esboniad ar lyfr Esaiah, sef Llyfr y Proffwyd Esaiah, esboniad: pen. xl-lxvi, 1919. Traddododd gyfres o ddarlithiau ar grefydd Israel dan nawdd Coleg y Brifysgol, Caerdydd, a Chymdeithas Addysg y Gweithwyr (y ' W.E.A.') a chyhoeddwyd hwy yn 1936 dan y teitl, Y Datguddiad o Dduw yn yr Hen Destament; ymddangosodd cyfieithiad Saesneg yn 1942 - The Revelation of God in the Old Testament. Yr oedd yn bleidiwr digymrodedd i'r Mudiad Heddwch. Bu farw 22 Gorffennaf 1935.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.