Ganwyd yn y Tyddyn, Talybont, Llanllechid (Arfon) ond ym Mangor y maged ef. Bu am ryw bum mlynedd mewn swyddfa marsiandwr yn Lerpwl. Dechreuodd bregethu yn 1853. Wedi iddo fod am amser yng Ngholeg y Bala, aeth i Brifysgol Llundain, gan raddio yn 1858. Ordeiniwyd ef yn 1859. Bu'n gofalu am yr eglwys yn Birkenhead o 1857 hyd 1860. Yn 1860 aeth yn aelod o eglwys Chatham Street, Lerpwl, gan wasanaethu'r eglwysi yn gyffredinol. Yna bu'n bugeilio eglwysi Croesoswallt (1867-76), a Heol Clwyd, Rhyl (1876-84). Bu farw 22 Medi 1884, yn 55 oed.
Fel gŵr coeth, meddylgar, a galluog, safai ym mhlith y prifion, ac yr oedd cylch ei astudiaeth yn dra eang. Cafwyd tystiolaethau i'w ddawn a'i fedr fel athro. Yn y flwyddyn 1873 darlithiodd ar Hanesiaeth a Gwyddoniaeth y Beibl i efrydwyr y Bala, a chyhoeddwyd y darlithiau yn llyfr. Yr oedd iddo ran yng ngolygu Testament yr Ysgol Sabothol ac ysgrifennu rhannau ohono. Ef hefyd a ysgrifennodd Testament y Miloedd, ac o'i law ef y daeth amryw o ysgrifau yr atodiad i'r Gwyddoniadur Cymreig.
Er ei flino ar hyd ei oes gan nerfusrwydd poenus, daeth ei rym fel pregethwr yn hysbys i Gymru gyfan. Cafwyd ynddo'r cyfuniad rhagorol o'r llenor, yr esboniwr, a'r pregethwr nerthol. [Ganwyd 2 Mehefin 1829 - Not. W. ]
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.