Ganwyd 15 Chwefror 1809 yn Thames Street, Llundain, unig fab Owen Jones (' Owain Myfyr '). Ceir manylion gweddol lawn am ei yrfa yn y D.N.B. Dyma fraslun: Wedi cael ei addysg yn ysgol y Charterhouse ac yn breifat daeth, yn 16 oed, yn ddisgybl i L. Vulliamy, pensaer, ac yn ystod y chwe blynedd a dreuliodd gyda hwnnw bu hefyd yn astudio yn y Royal Academy of Arts. Yn 1830 bu'n trafaelio yn Ffrainc a'r Eidal; yn 1833 aeth i'r Aifft, Twrci, a gwlad Groeg; yn 1834 yr oedd yn Sbaen, yn enwedig yn Granada (a myned i Granada eilwaith yn 1837). Yn 1836 ymddangosodd ei waith cyntaf, sef rhan gyntaf Plans, Elevations, Sections, and Details of the Alhambra. Yn 1851 gwnaethpwyd ef yn arolygydd gwaith yn yr Arddangosfa Fawr (yr ' 1851 Exhibition'); bu iddo felly chwarae rhan bwysig yn addurno a threfnu'r adeilad y cynhelid yr arddangosfa ynddo. Y flwyddyn ddilynol daeth yn gyd-gyfarwyddwr gwaith addurno y Plas Grisial; efe oedd cynllunydd y 'llysoedd' Eifftaidd, Groegaidd, a Rhufeinaidd, a 'llys' yr Alhambra. Wedi hynny bu'n ddiwyd iawn yn addurno cartrefi ac adeiladau eraill; addurnodd blas Khedive yr Aifft, ac efe oedd pensaer y S.James's Hall, Llundain. Dangoswyd cynlluniau a darluniau pensaernïol ganddo yn arddangosfeydd y Royal Academy; e.e. The Town Hall, Birmingham, 1831, a S. George's Hall, Lerpwl, 1845. Dyfarnwyd iddo fedal aur y Royal Institute of British Architects yn 1857, sefydliad y daeth yn is-lywydd iddo ddeng mlynedd yn ddiweddarach. Bu farw 19 Ebrill 1874 yn Argyll Place, Regent Street, Llundain, a chladdwyd ef ym mynwent Kensal Green.
Rhestrir cyhoeddiadau niferus Owen Jones yn y D.N.B. Y mwyaf adnabyddus heddiw ydyw ei Grammar of Ornament (London, 1856; arg. arall yn 1865); dylanwadodd hwn, a rhai gweithiau eraill ganddo, ar ddatblygiad cynlluniau papur papuro, carpedi, a dodrefn. Gwaith arall o bwys yn ei gyfnod ydoedd The Illuminated Books of the Middle Ages (1844 -?; paratowyd hwn mewn cydweithrediad â H. N. Humphreys). Cyhoeddodd yr awdur argraffiadau lliw o rai o lyfrau'r Beibl, a'r Llyfr Gweddi Gyffredin (Saesneg); bu hefyd yn darlunio gweithiau rhai o'r beirdd.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.