Ganwyd 7 Ebrill 1861, ym Mhenbryn, Chwilog, yn fab i Richard Jones, amaethwr, ac Ellen Hughes. Addysgwyd ef yn ysgolion Llanystumdwy, Holt, a Chlynnog. Yn Holt dechreuodd bregethu, ac aeth i Goleg y Bala, oddi yno i Goleg Bangor, ac i Goleg S. Ioan, Caergrawnt, a graddio (1890) gydag anrhydedd mewn athroniaeth. Yn 1890 derbyniodd alwad eglwys Methodistiaid Calfinaidd Waunfawr, Arfon. Ymhen pum mlynedd symudodd i eglwys Chatham Street, Lerpwl, a threuliodd bum mlynedd yno. Daeth yn un o arweinwyr ei enwad, yn bregethwr sasiwn, ac ysgrifennai'n ysgolheigaidd i'r cyfnodolion. Dygwyd cyhuddiadau yn ei erbyn, a barodd iddo adael y cyfundeb (1901), a chychwyn mudiad yn dwyn yr enw ' Eglwys Rydd y Cymry,' yn Hope Street, gyda 450 o aelodau, oddeutu eu hanner wedi ymadael o eglwys Chatham Street gyda'r gweinidog. Am rai misoedd ceid cynulleidfaoedd yn rhifo'n agos i ddwy fil, a chododd yr aelodaeth nes cyrraedd yn agos i ddeuddeg cant. Sefydlwyd canghennau ar y ddau tu i afon Merswy, codwyd capeli; ond daeth cyfnewidiad yng nghwrs amser a chaewyd nifer o'r capeli. Yn 1920, ymunodd W. O. Jones a'i bobl â'r Annibynwyr, a daliodd i ofalu am eglwys Canning Street. Yn fuan wedi sefydlu'r ' Eglwys Rydd ' cychwynnwyd misolyn, Llais Rhyddid, gyda W. O. Jones yn olygydd. Daeth y Llais allan yn gyson o 1902 hyd 1920, yn fisol hyd 1912, wedi hynny'n chwarterol. Bu farw yn Lerpwl, 14 Mai 1937.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.