Ganwyd 20 Chwefror 1878 yn Goginan, Sir Aberteifi. Symudodd y teulu i Ebbw Vale ac addysgwyd y mab yn Ysgol Lewis, Pengam. Daeth i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth, yn 1894 ac yr oedd ymhlith graddedigion cyntaf prifysgol newydd Cymru. Oddi yno aeth i Goleg Clare, Caergrawnt, gan raddio yn uchel yno yn 1900. Fe'i dewiswyd yn ' Jacksonian Demonstrator ' yn fferyllfa'r brifysgol yn 1902, ac yn gymrawd a darlithydd yn ei goleg. Bu'n gwneuthur llawer o waith ymchwil pwysig a gwerthfawr, a daeth i gael ei gyfrif yn awdurdod ar bwnc 'Stereochemistry of Nitrogen' ac ar olew tanawl; gyda Syr James Dewar bu'n astudio'r 'carbonyls' metalaidd. Fe'i hetholwyd yn F.R.S. yn gynnar yn 1912.
Yr oedd iddo fri fel dringwr mynyddoedd, ac arferai dreulio ei wyliau yn dringo yn Eryri ac ar ochr Eidalaidd Mont Blanc. Priododd, 1 Awst 1912, Muriel Gwendolen Edwards, Bangor, cymrawd o Brifysgol Cymru a chydweithiwr ag ef. Cwympodd y ddau a lladdwyd hwynt ar 15 Awst, 1912 pan oeddent yn dringo Mont Rouge de Peuteret, a chladdwyd hwynt yn Courmayer yng ngogledd yr Eidal.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Er iddo ddechrau dringo 'n gymharol hwyr yn ei oes, yr oedd yn y rheng flaenaf oll. Yn ôl Geoffrey Winthrop Young, dringwr enwocaf y cyfnod, yr oedd yn 'gymrawd delfrydol' a'i ddringo yn ' batrwm o symudiadau gwisgi, manwl a lluniaidd '. Ymddengys iddo ymweld â Zermatt yn 1906 a dechrau dringo creigiau o ddifrif yn Eryri, tan arweiniad J. M. Archer Thomson, prifathro Ysgol John Bright, Llandudno, y flwyddyn ddilynol. Yn fuan yr oedd yn helpu'r archddringwr hwnnw i gwblhau arloesi creigiau'r Lliwedd ac i ddarganfod clogwyni dringo Crib y Ddysgl, Llechog a Chreigiau Gleision. Gan ddechrau yn 1907, arweiniodd Jones nifer o ddringfeydd newydd yn Eryri sy'n dal mewn bri, gan gynnwys rhai 'anodd iawn' fel Paradwys ar y Lliwedd (1909) ac ambell un rwydd, boblogaidd fel y Griafolen ar Tryfan (1910). Yn 1911 bu'n creu dringfeydd newydd yn y Cuillin gyda'i chwaer Bronwen ac Archer Thomson. (Yn ôl Young, Bronwen Ceridwen Jones (Mrs. Mawson wedyn; 1890 - 1981) oedd y gyntaf i ddangos sut y gall dringreg ragori ar ddyn trwy gamu cytbwys yn lle defnyddio nerth braich; hyhi a gyfrannodd yr ysgrif ar ddillad dringo i ferched yn arg. cyntaf ei Mountain craft).
Pob haf o 1908 ymlaen, canolbwyntiai Jones ar ochr ddeheuol y Mont Blanc, gan gwblhau amryw o esgyniadau cyntaf, nifer ohonynt yng nghwmni Young a'r tywysydd Joseph Knubel : ymhlith y pwysicaf yr oedd yr Aiguille Blanche de Peuterey o'r gorllewin (1909), llwybr arferol Crib Brouillard ('anterth ei waith arloesol ar y Mont Blanc, chwedl Young), crib orllewinol y Grandes Jorasses ac wyneb gorllewinol y Grépon (1910) a L'Isolée (1912). Yr oedd ei wraig hithau yn ddringreg fedrus: arweiniodd Grib y Pinaclau ar Sgurr nan Gillean heb gwmni dyn. Etholwyd Jones i'r Clwb Alpaidd ac i Glwb y Dringwyr yn 1910 ac yr oedd ar bwyllgor yr olaf. Cwbl ffeithiol yw'r ychydig a gyfrannodd i'r cylchgronau dringo ond darllenai waith awduron Cymraeg fel O.M. Edwards. Y mae cofeb iddo yn Ysgol Lewis, Pengam. La Pointe Jones yw'r enw ar gopa gogleddol yr Aiguille Blanche (4104 m.) yn Guide Vallot (arg. 1930).
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.