Ganwyd yn Erw Ystyfflau, plwyf Llanwnda, Sir Gaernarfon, yn niwedd 1785, yn fab John Jones a Margaret ei wraig; bedyddiwyd ef yn eglwys Llanwnda 29 Ionawr 1786. Bu farw 21 Mehefin 1848, a chladdwyd ef ym mynwent Llanbeblig, Caernarfon.
Eisteddfodwr hunan-ddiwylliedig hynod lwyddiannus ydoedd. Enillodd wobr y gadair yn eisteddfod Caernarfon 1821 am awdl ' Cerddoriaeth,' tlws y Gwyneddigion yn eisteddfod Llanwrtyd, 1823, am awdl ar 'Lles Gwybodaeth,' ac amryw brif wobrau eraill. Cyhoeddodd gasgliad o'i farddoniaeth yn 1818 dan y teitl Peroriaeth Awen. Yr oedd yn fedrus ar ganu'r chwibanogl, a bu'n aelod blaenllaw o fand y tabwrdd a'r gadbib yn perthyn i Wirfoddolwyr arglwydd Newborough, Glynllifon, a'r milwyr lleol.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.