yn Brynrefail, Sir Gaernarfon; ganwyd 3 Mehefin 1838 yn Llanfachraeth, Môn. Crydd a bardd ydoedd i ddechrau. Yna, yn 1873, dechreuodd bregethu. Yn 1875 galwyd ef i wasnaethu gyda'r genhadaeth gartref ym Millom, Cumberland, a bu yno oddeutu chwe blynedd. Aeth oddi yno i fyw i Gaergybi gan barhau i bregethu. Yn Ionawr 1884 galwyd ef i fugeilio eglwys Brynrefail. Hunan-ddiwylliedig ydoedd, ac ar ei daith i'r weinidogaeth ni chyrhaeddodd na Chlynnog na'r Bala. Er hynny yr oedd yn feddyliwr coeth ac yn deall amryw ieithoedd. Pregethai gyda chewri'r enwad, er mai fel esboniwr yr oedd amlycaf. Bu'n briod ddwywaith, a magodd dyaid o blant. Cyhoeddodd ddau esboniad a darlith, a chyhoeddwyd cyfrol o'i farddoniaeth a'i bregethau wedi ei farwolaeth gan ei blant. Bu farw 4 Chwefror 1925.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/