Ganwyd yn Llanfrothen, mab Richard Jones. Prentisiwyd ef yn saer coed a dilynodd yr alwedigaeth honno hyd 1865, pan ddechreuodd bregethu a mynd i ysgol Clynnog. Yn 1866 aeth i Goleg y Bala, ac yn 1869 cafodd alwad i fugeilio eglwysi Tŷ Mawr a Phenygraig, yn Llŷn. Ar ôl hynny bu'n bugeilio eglwysi Seion a Bethel, Llanrwst; Hyfrydle, Caergybi; ac Engedi, Caernarfon. Yr oedd yn bregethwr cymeradwy ac yn ŵr pur flaenllaw yn ei gyfundeb, ond fel llenor y cofir amdano, ac yn enwedig fel awdur yr ysgrifau a ymddangosodd yn Y Geninen, gan ddechrau yn 1885, uwchben yr enw ' Siluriad.' Yn y rhai hynny beirniadodd rai agweddau ar fywyd crefyddol a chymdeithasol Cymru yn finiog, a bu cryn gynnwrf. Ysgrifennodd ' Goleufryn ' lawer o bethau eraill, i'r Gwyddoniadur ac i newyddiaduron; yr oedd yn awdur esboniad ar Lyfr y Barnwyr, cyfrannodd i Feibl y Teulu, a chyhoeddodd gyfrol o storïau dirwestol dan y teitl Cibroth-Hataafah. Ym mis Hydref 1873 priododd Kate Rowlands, Penllwyn, Aberystwyth. Yn 1887 bu ef a'i briod ar daith yn yr Unol Daleithiau am rai misoedd, a phregethodd i lawer o gynulleidfaoedd Cymreig yn y wlad honno. Bu farw yng Nghaernarfon 11 Gorffennaf 1898, a chladdwyd ef ym mynwent Caeathro.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.