JONES, RICHARD ROBERT ('Dic Aberdaron'; 1779 - 1843)

Enw: Richard Robert Jones
Ffugenw: Dic Aberdaron
Dyddiad geni: 1779
Dyddiad marw: 1843
Rhiant: Margret Jones
Rhiant: Robert Jones
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Gruffydd Parry

Brodor o blwyf Aberdaron, ac o bosibl o bentref Aberdaron. Saer coed a saer cychod oedd ei dad, ond ni fu llawer o lwyddiant ar ymdrech y mab i fwrw'i brentisiaeth gydag ef. Daeth yn adnabyddus oherwydd dwy nodwedd arbennig yn ei gymeriad, sef ei fedr eithriadol i ddysgu ieithoedd, a'i aflerwch yn ei wisg a'i arferion.

Oherwydd ei ddiffyg diddordeb yng ngalwedigaeth ei dad, gorfodwyd ef yn gymharol gynnar ar ei oes i adael ei gartref, pa un ai o'i wirfodd ai o raid nid oes sicrwydd. Dechreuodd ddysgu Lladin pan oedd tua 12 oed, a chyn bod yn 20 yr oedd wedi dechrau dysgu Groeg. Ond naill ai am fod ysfa crwydro yn ei waed, neu am fod gorfodaeth amgylchiadau yn peri iddo symud yn aml, ansicr a bratiog ydyw ei hanes ar hyd ei oes. Gwyddys iddo fod yn Lerpwl yn 1804, ac yn Llundain yn 1807, ac iddo aros am gyfnodau byr ym Mangor, yng Nghaernarfon, ac yn sir Fôn, ac iddo yn ystod ei grwydradau gael cyfle i ddysgu Hebraeg yn ogystal â rhai ieithoedd diweddar fel Sbaeneg ac Eidaleg.

Cariai nifer helaeth o lyfrau o'i gwmpas ym mhlygion ei ddillad, a bu rhaid arno droeon, o brinder bwyd a dillad, werthu rhai ohonynt a'u prynu yn ôl drachefn. Nid oedd ganddo unrhyw dro at lenyddiaeth, a gallai ddarllen llyfrau cyfain heb wybod odid ddim am eu cynnwys. Bu o 1831 hyd 1832 yn gweithio ar ei eiriadur Cymraeg-Groeg-Hebraeg, ac wedyn yn ceisio casglu enwau tanysgrifwyr er mwyn ei gyhoeddi, ond methiant fu. Bu farw yn Llanelwy 18 Rhagfyr 1843 a chladdwyd ef yno; y mae englyn ar garreg ei fedd gan Ellis Owen, Cefnymeysydd.

Nodyn golygyddol 2021:

Mewn hunangofiant y dechreuodd arno tua diwedd ei fywyd noda Dic iddo gael gwybod gan ei chwaer Jane mai yn 1780 y’i ganwyd, a’r dyddiad hwnnw sydd ar ei garreg fedd. Ond dengys cofnodion Eglwys Hywyn Sant, Aberdaron, iddo gael ei fedyddio ar 4 Gorffennaf 1779. Ef oedd y trydydd o bedwar o blant Robert Jones a’i wraig Margret. [Gwybodaeth trwy law Alun Jones]

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.