JONES, ROBERT (1810 - 1879), clerigwr ac awdur

Enw: Robert Jones
Dyddiad geni: 1810
Dyddiad marw: 1879
Rhiant: Robert Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Thomas Iorwerth Ellis

Ganwyd 6 Ionawr 1810, mab hynaf Robert Jones o Lanfyllin, Sir Drefaldwyn. Cafodd ei addysgu yn ysgol ramadeg Croesoswallt. Ymaelododd ym Mhrifysgol Rhydychen o Goleg Iesu, 12 Rhagfyr 1834, a graddio'n B.A. yn 1837. Ordeiniwyd ef yn ddiacon gan yr esgob Carey o Lanelwy, 1 Gorffennaf 1837, a'i drwyddedu i guradiaeth Llaneurgain, Sir y Fflint. Cafodd urddau offeiriad 5 Mai 1838, a bu'n gurad yn Abermaw o 1840 hyd 1842. Yn y flwyddyn honno dyrchafwyd ef yn ficer Eglwys All Saints, Rotherhithe, Llundain, ac yno y bu hyd ei farwolaeth 28 Mawrth 1879. Claddwyd ef ym mynwent Eglwys All Saints.

Yn ystod ei dymor yn Abermaw cyhoeddodd gasgliad o salmau ac emynau Cymraeg, ac, yn 1864, adargraffiad o lyfr y Dr. John Davies, Flores Poetarum Britannicorum. Yn 1876 cyhoeddodd The Poetical Works of Goronwy Owen … with his Life and Correspondence (dwy gyfrol) ac yn 1877 The Works of Iolo Goch, with a sketch of his life, ond torrwyd ar draws hyn gan ei farwolaeth. Yr oedd yn aelod pybyr o Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, ac yn 1876 penodwyd ef yn olygydd Y Cymmrodor; rhoddes gryn gefnogaeth i'r eisteddfod genedlaethol, ac i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn ei flynyddoedd cynnar. Yr oedd yn flaenllaw ym mywyd Cymry Llundain ac yn uchel ei barch yno.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.