JONES, Sir ROBERT, barwnig (1857 - 1933), llawfeddyg orthopedig

Enw: Robert Jones
Dyddiad geni: 1857
Dyddiad marw: 1933
Rhiant: Margaret Jones (née Hughes)
Rhiant: Robert Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llawfeddyg orthopedig
Maes gweithgaredd: Meddygaeth
Awdur: Arthur Rocyn Jones

Ganwyd 28 Mehefin 1857 yn y Rhyl, mab Robert Jones, newyddiadurwr, a Mary Hughes, Rhuddlan. Pan oedd y mab yn bum mlwydd oed symudodd y tad i Lundain. Cafodd ei addysg yn Sydenham College ac wedyn bu'n astudio meddygaeth yn Lerpwl gan fyw yn 11 Nelson Street gyda'i ewythr, Dr. H. O. Thomas, i'r hwn hefyd y cafodd ei brentisio; pan fu farw ei dad ymhen dwy flynedd wedi hynny daeth cartref ei ewythr yn gartref i Robert Jones hefyd. Cwplaodd ei gwrs meddygol yn 1878, ac ychydig wedi hynny daeth yn F.R.C.S.E. Daeth yn gynorthwywr i Dr. Thomas a thrwy hynny cafodd brofiad eithriadol mewn llawfeddygaeth orthopedig. Dewiswyd ef yn brif lawfeddyg ('surgeon-superintendent') i gwmni y Manchester Ship Canal, ac yn ystod y pum mlynedd y buwyd yn agor y gamlas honno efe a wasanaethai pan oedd eisiau triniaeth lawfeddygol ar ôl y damweiniau casaf. Yn 1889 dewiswyd ef yn llawfeddyg mygedol i'r Royal Southern Hospital, Lerpwl. Yn 1904 troes yr Agnes Hunt Convalescent Homes yn Baschurch yn ysbyty orthopedig yn y wlad, gyda changhennau (clinics) yma ac acw lle y gellid archwilio achosion y rhai a oedd ag eisiau triniaeth arnynt yn y canolfan; dyma'r enghraifft gyntaf o'r fath beth a'r un a ddaeth yn batrwm i sefydliadau eraill. Yn 1909 dewiswyd ef y darlithydd cyntaf mewn llawfeddygaeth orthopedig ym Mhrifysgol Lerpwl; yr un flwyddyn etholwyd ef yn llywydd cyntaf adran orthopedig yr International Congress of Medicine.

Yn ystod rhyfel mawr 1914-8 defnyddiodd, wrth ddelio â chlwyfau aelodau'r corff a'r asgwrn cefn, y dechneg a ddatblygasai cyn hynny yn ei bractis sifil; yn ysbyty milwrol Alder Hey, Lerpwl, neilltuwyd 400 o welyau i'r pwrpas hwnnw a throwyd Ysbyty Hammersmith (yn Shepherd's Bush) yn gyfan gwbl i fod yn ysbyty orthopedig milwrol a chanddo mewn cysylltiad ag ef weithdai lle y câi y rhai a gawsai driniaeth yn yr ysbyty gyfle i barhau i wella trwy gyfrwng gwaith a fyddai'n fendithiol iddynt. Trefnwyd ysbytai cyffelyb mewn rhannau eraill o'r wlad hefyd. Y prif amcan wrth drin briwiau ac esgyrn a dorrwyd ydoedd gofalu rhag cloffni a diffrwythdra, ac ar yr un pryd geisio cael y milwr a ddioddefasai yn abl i fynd yn ôl i'r fyddin neu i gymryd ei le, yn ddianaf, fel gweithiwr. Yn 1915 dangosodd werth y 'Thomas splints' yn y mannau hynny yn Ffrainc lle y câi clwyfedigion rhyfel driniaeth gyntaf oll ('casualty clearing stations'); o hynny ymlaen bu defnyddio'r 'Thomas caliper' yn foddion i achub miloedd o aelodau anafus ac yn help i symud clwyfedigion yn fwy hwylus ac â llai o boen iddynt eu hunain. Ysgrifennodd ddau lyfr ar lawfeddygaeth orthopedig filwrol a chafodd y rhain ddylanwad mawr a chyffredinol yn y gwahanol wledydd lle yr oedd brwydro. Cyn diwedd y rhyfel yr oedd wedi ei ddyrchafu'n 'major-general.'

Daeth i ran Robert Jones lu o anrhydeddau o sefydliadau a chymdeithasau llawfeddygol ym Mhrydain a gwledydd eraill; cafodd hefyd chwech o raddau ('er anrhydedd') gan brifysgolion - yn eu plith (1917) D.Sc. Prifysgol Cymru. Dangoswyd teyrnged byd cyfan iddo am ei waith a'i allu pan etholwyd ef yn llywydd cyntaf yr International Society of Orthopaedic Surgery. Cafodd ei wneuthur yn K.B.E., yn C.B., ac yn farwnig. Bu farw 14 Ionawr 1933, yn Bodynfoel, Llanfechain, Sir Drefaldwyn - cartref ei ferch. Llosgwyd ei gorff a gosodwyd ei lwch i orffwys yn eglwys gadeiriol Lerpwl 'in view of the great services rendered by him to humanity at large.'

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.