JONES, ROBERT ('Trebor Aled'; 1866-1917), bardd a gweinidog gyda'r Bedyddwyr

Enw: Robert Jones
Ffugenw: Trebor Aled
Dyddiad geni: 1866
Dyddiad marw: 1917
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd a gweinidog gyda'r Bedyddwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker

Ganwyd 4 Hydref 1866 yn Llety'r Eos, Llansannan, sir Ddinbych. Ni chaffodd ond ychydig addysg gynnar, a dechreuodd weithio yn ifanc iawn; bu'n fugail yn ymyl Dinbych am gyfnod, ac wedi hynny yn werthwr llyfrau dros gwmni o argraffwyr. Dechreuodd bregethu yn Ninbych yn 1893, ac ordeiniwyd ef yn weinidog yr eglwysi yn Llansannan a Llanfairtalhaearn yn 1898; symudodd i Dalybont, ger Aberystwyth, yn 1905. Cyhoeddodd Fy Lloffyn Cyntaf, sef Casgliad o Gynyrchion Prydyddol, 1894, Cofiant y Diweddar Thomas Jones, Llansannan, 1901, Awdl Geraint ac Enid (Testyn y Gadair Eisteddfod … Genedlaethol Rhyl, 1904, 1905), Pleser a Phoen, sef Cyfrol o Farddoniaeth yn y Llon a'r Lleddf, 1908, Talhaiarn, 1916. Bu farw 7 Ionawr 1917.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.