Ganwyd yn Hunslet, Leeds, 15 Mai 1867, unig blentyn y Parch. Henry William Jones (ar y pryd curad Hunslet) a Margaret Lawrance (Baker). Addysgwyd ef yn ysgol Rossall a Choleg Balliol, Rhydychen (ysgolor clasurol, 1886). Yng nghwrs gyrfa ddisglair yn y brifysgol enillodd ysgoloriaethau Hertford, Craven, ac Ireland, Gwobr Gaisford am ryddiaith Roegaidd, a'r ' Craven Fellowship.' Bu yn gymrawd Coleg y Drindod, Rhydychen, 1890-1906, a chyfarwyddwr y ' British School at Rome,' 1903-5. Yn 1905 ymsefydlodd yn Saundersfoot, Sir Benfro; yn 1919 apwyntiwyd ef yn ' Camden Professor of Ancient History ' a chymrawd Brasenose College, Rhydychen, ac yn 1927 yn brifathro Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Gan ei fod o waed hanner- Cymreig, ymegnïodd i feistroli'r iaith, a bu'n weithgar ym mywyd Cymru, fel is-ganghellor y Brifysgol 1929-31, aelod o fwrdd llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru a chynghorau Coleg Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan, Coleg y Drindod, Caerfyrddin, a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Urddwyd yn farchog 1933, ymneilltuodd o'r coleg 1934, a bu farw yn Ninbych-y-pysgod 29 Mehefin 1939. Priododd 1894, Ileen, merch y Parch. Edwyn Henry Vaughan; bu hithau farw 1931. Yr oedd ganddynt un mab. Yr oedd Syr Henry yn gymrawd o'r Academi Brydeinig ers 1915, a llywydd y ' Society for the Promotion of Roman Studies,' 1926-9; cysegrwyd iddo rifyn 1937 o'i Journal ar achlysur ei 70ain ben blwydd. Ym maes yr efrydiau clasurol y gwnaethpwyd rhan fwyaf ei waith; ymhob cangen ohonynt, yn cynnwys cerddoriaeth Roegaidd, yr oedd yn feistr. Bu'n brif olygydd argraffiad newydd Greek-English Lexicon Liddell a Scott (1925-40). Ymhlith ei gyhoeddiadau niferus (llyfryddiaeth, gweler Journ. Rom. Stud., xxvii, 3-11) y mae argraffiad o Thucydides (Oxford Classical Texts, 1898), The Roman Empire, 1908, ac A Companion to Roman History, 1912.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.