Rhydwilym a Glynceiriog; ganwyd yn Llangollen ac yn eglwys enwog Glynceiriog y cafodd ei fagwraeth grefyddol. Hanoedd o du ei dad o deulu y Ddôl Hir, Glynceiriog. Ordeiniwyd ef a'i gymydog John Edwards yn gydweinidogion ar eglwys y Glyn, 2 Gorffennaf 1794. Erbyn 1796 yr oedd y pynciau Sandemanaidd yn corddi pobl y Glyn, ac ymrannodd yr eglwys, un adran ohoni dan arweiniad Thomas Jones yn aros gyda'r Hen Fedyddwyr, ac adran arall yng ngofal John Edwards yn ymffurfio yn un o eglwysi cyfundeb J. R. Jones. Buasai Thomas Jones a John Edwards yn cydofalu am eglwys Fedyddiedig Dyffryn Clwyd er 1795, ac yn 1797 ymestynnodd rhwyg y Glyn i eglwys y Dyffryn. Thomas Jones oedd arweinydd ehofnaf Bedyddwyr y Gogledd yn erbyn daliadau J. R. Jones, a bu ei safiad yn dyngedfennol i'w enwad yn y Gogledd. Megis yn ei fro ei hun, ac yn y Cefnbychan, gweithiodd yn ddygn yn Rhuthyn (cafwyd tŷ cwrdd yn 1801) ac yn ffiniau'r Dyffryn. Priododd Ann Richards, Mathry, yn 1807, a'i ordeinio yn weinidog Rhydwilym, 14 Gorffennaf 1808. Yma, am ddwy genhedlaeth ymron, efengylodd ac adeiladodd eglwys. Nid gŵr yr hwyliau mohono ef, ond pregethwr esboniadol, meddyliwr praff, efengylaidd. Yr oedd yn cyfrif mewn cynhadledd ac yn boblogaidd yn y cymanfaoedd. Gŵr gwastad, difrif, argyhoeddiadol, yn hyfforddi, ceryddu, esbonio. Bu farw 15 Hydref 1850 a'i gladdu yn Rhydwilym.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.