JONES, THOMAS (1810 - 1849), cenhadwr cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd ar fryniau Khasia

Enw: Thomas Jones
Dyddiad geni: 1810
Dyddiad marw: 1849
Rhiant: Mary Jones
Rhiant: Edward Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cenhadwr cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 24 Ionawr 1810, yn fab i Edward a Mary Jones, Tan-y-ffridd, Llangynyw. O fod yn saer troliau, aeth yn felinydd i felin Llifior, Aberriw. Dechreuodd bregethu tua 1835, ac yr oedd yn un o ddisgyblion cyntaf Coleg y Bala (1837).

Rhoes ei fryd ar fod yn genhadwr, a chynigiodd ei wasanaeth i Gymdeithas Genhadol Llundain; ni fynnai honno iddo (yn herwydd ei iechyd bregus) fynd i'r India, a gwrthodai yntau fynd i Dde Affrica. Canlyniad uniongyrchol yr anghydweld hwn fu sefydlu cenhadaeth dramor y Methodistiaid Calfinaidd (1840); ordeiniwyd Thomas Jones, ac wedi tymor byr o hyfforddiant meddygol yn Glasgow hwyliodd i'r India ym mis Tachwedd, a chyrraedd Calcutta fis Ebrill 1841. Ganol 1841 ymsefydlodd yn Cherrapunjee. Dysgodd yr iaith Khasi; efe, hyd y gwyddys, fu'r cyntaf i'w rhoi ar glawr, a chyfieithodd efengyl Matthew a nifer o holwyddoregau.

Bu farw ei briod yn 1845, ac ailbriododd yntau'n groes i farn llywodraethwyr y genhadaeth; ni chytunai'n rhy dda chwaith â'r cenhadon eraill a oedd wedi eu hanfon drosodd o Gymru. Rhwng popeth, rhoes heibio ei genhadaeth (1847) a chymryd at drin y tir. Dirywiodd ei iechyd yn gyflym, ac ni lwyddodd yn ei amgylchiadau chwaith.

Bu farw yn Calcutta, 16 Medi 1849, a chladdwyd yn y fynwent Sgotaidd yno.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.