JONES, THOMAS ('Taliesin o Eifion '; 1820 - 1876), bardd

Enw: Thomas Jones
Ffugenw: Taliesin O Eifion
Dyddiad geni: 1820
Dyddiad marw: 1876
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Barddoniaeth
Awdur: William Evans

Ganwyd 13 Medi 1820 yn Llanystumdwy, Sir Gaernarfon, yn fab i ŵr a enillasai fedal Trafalgar pan oedd yn aelod o'r gerddorfa ar fwrdd y Victory. Yn 1826 symudodd ei rieni i Langollen, lle, ar ôl derbyn addysg dda, y dilynodd 'Taliesin' grefft ei dad, 'plumber and decorator' yr ardal, a gwelwyd ôl ei law ar arwydd llawer tŷ tafarn. Dysgodd y gynghanedd yn ifanc, a'i weithiau cynganeddol yw ei bethau mwyaf poblogaidd. Yr oedd yn eisteddfodwr blaenllaw. Ei 'Frwydr Crogen' yw un o'r esiamplau cynharaf o ddrama fydryddol Gymraeg. Anfonasai awdl i eisteddfod Wrecsam, 1876, ond bu farw 1 Mehefin a gorchuddiwyd y gadair a ddyfarnwyd iddo mewn du. Dyna pam y sonnir amdano fel 'Bardd y Gadair Ddu.'

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.