JONES, THOMAS ('Canrhawdfardd '; 1823 - 1904), cerddor

Enw: Thomas Jones
Ffugenw: Canrhawdfardd
Dyddiad geni: 1823
Dyddiad marw: 1904
Rhiant: Mary Jones
Rhiant: John Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Cerddoriaeth; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd 2 Gorffennaf 1823 yn Bwlch-y-creigiau ger Nannerch, Sir y Fflint, mab John a Mary Jones. Dysgodd ddarllen cerddoriaeth yn ieuanc, ac arweiniai y canu yng nghapel y Wesleaid yn 16 oed. Cynhaliai ddosbarthiadau cerddorol yn ardaloedd cylchynnol ei gartref. Yn 1849 dechreuodd bregethu gyda'r Wesleaid. Yn 1851 symudodd i fyw yn agos i Dreffynnon, ac oddi yno aeth i Lixwm. Yn 1864 symudodd i Goedpoeth i gadw siop lyfrau, ac argraffu. Enillodd lawer o wobrwyon am gyfansoddi, a bu amryw o'i anthemau yn boblogaidd. Cyhoeddodd y llyfrau canlynol (yn cynnwys tonau, anthemau, carolau, etc.): Y Symbal, Y Cerddor Gwreiddiol, Cerddor y Bobl, Moliant Israel, Organ y Plant, Y Cerbyd Cerddorol, Y Ddysglaid Gerddorol, Hymnau a Thonau, a'r gantawd Rhagluniaeth. Efe oedd golygydd cerddoriaeth y casgliad tonau, Cydymaith yr Addolydd, 1851. Bu farw 26 Hydref 1904, a chladdwyd ef yng nghladdfa gyhoeddus Coedpoeth.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.