Ganwyd yn Tynygors, Nantglyn, sir Ddinbych, 10 Mehefin 1860, mab Thomas a Margaret Jones - y fam yn ferch Tynygors, a'r tad yn fab Llidiard-y-gwartheg, Cerrig-y-drudion. Magwyd gyda'i daid a'i nain, gan symud i Tai Isaf (1872). Cafodd hanner blwyddyn o ysgol ym Mhentrefoelas, a dau hanner yn Cerrigydrudion. Priododd Mary, merch Elin ac Abel Jones, Llanfihangel, fis Rhagfyr 1882, gan fyw yn Tai Isaf hyd 1897, Bryndu, 1912, a Cerrigellgwm nes y bu farw yn ysbyty Dinbych, 31 Hydref 1932, a'i gladdu yng Ngherrig-y-drudion, 2 Tachwedd, yn 72 oed.
Yr oedd yn fardd swynol - baledwr yn bennaf; enillodd gadeiriau, a bu'n feirniad droeon. Enillodd brif draethawd eisteddfod Corwen (1929). Cyhoeddodd Caneuon, 1902, Beirdd Uwchaled, 1930, a Pitar Puw, 1932. Ysgrifennodd 'hanes' John Jones, Glanygors i arg. 1923 o Seren Tan Gwmwl, a cheir peth o'i weithiau yn Cymru (O.M.E.), Gen., Yr Haul, etc. Yr oedd yn awdurdod ar 'osod' i ganu penillion telyn.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/