Ganwyd 28 Ebrill 1844 yn Llandudno, i Thomas Jones a Mary ei wraig, merch Griffith Griffiths, Bryncelyn Fawr, Llanengan. Cafodd ei addysg mewn ysgolion yn ymyl ei gartref. Yn dair ar ddeg oed aeth i weithio mewn siop gyda'i frawd. Yn 1867 penodwyd ef yn olygydd y Llandudno Directory. Bu wedyn am ychydig yng Nghaernarfon ar staff y Carnarvon and Denbigh Herald. O 1874 hyd 1880 bu'n golygu Llais y Wlad, papur Ceidwadol. Yn 1879 priododd Mary Rowlands, Tŷ Cristion, Bodedern, Môn, a bu iddynt ddau o blant, mab a merch, a fu farw yn ifainc. Yn 1881 aeth i Goleg S. Bees, ac yn 1883 urddwyd ef i weinidogaeth yr Eglwys. Bu'n gurad yn eglwys Gymraeg Lerpwl, yn Llanyblodwel, a Llanrwst, lle y bu farw, 18 Mai 1895. Ysgrifennodd lawer i'r Wasg yn erbyn datgysylltu Eglwys Loegr yng Nghymru ac ar bynciau eraill, ond fel bardd yr oedd yn fwyaf adnabyddus. Enillodd ar yr awdl yn yr eisteddfod genedlaethol ym Mhwllheli yn 1875, yng Nghaernarfon yn 1877, yn Wrecsam yn 1888, ac ym Mangor yn 1890. Y mae swm ei waith yn helaeth iawn, y rhan fwyaf ohono ar gynghanedd, ond ni phrisir dim arno heddiw.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.