cyfaill i Thomas Charles; ganwyd yn y Fenni, 18 Tachwedd 1755, yn fab i John Jones, gwneuthurwr clociau. Aeth i Goleg Iesu, Rhydychen, yn 1773 neu 1774, a bu yno hyd 1777 (yr oedd Charles yntau yno yn 1775, a geilw Jones ef ' my once very intimate friend'); dengys y dyddlyfrau a ddechreuodd yn Rhydychen ei fod yn burion ysgolhaig. Ddechrau 1778, aeth yn athro i deulu swyddog gwladol yn Jamaica. Dychwelodd i Loegr yn gynnar yn 1780; cymerth ei radd, ac urddwyd ef yn ddiacon. O 1781 hyd 1801 bu'n gurad Broxbourne a Hoddesdon, Swydd Hertford; yn 1801, ar waethaf ei ofnau y byddai ei ymddygiadau ' Methodistaidd ' yn rhwystr iddo, cafodd y ficeriaeth; bu farw yn Broxbourne 12 Hydref 1821. Ddeuddeng mlynedd cyn ei farw yr oedd wedi cael gwneud arch iddo'i hunan, a rhoi silffoedd ynddi yn y cyfamser i gadw llyfrau - ond ar ei farw cafwyd fod yr arch yn rhy fechan. Cadwodd ddyddlyfrau manwl, o 1777 hyd ddiwedd ei fywyd; cyhoeddwyd detholion o'r rhain yn 1929 gan O. F. Christie. Gohebai â Thomas Charles, ac y mae amryw o'u llythyrau yn llyfr D. E. Jenkins ar Charles.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.