JONES, WILLIAM (1790 - 1855), gweinidog a hanesydd y Bedyddwyr

Enw: William Jones
Dyddiad geni: 1790
Dyddiad marw: 1855
Plentyn: Rhys Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog a hanesydd y Bedyddwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Benjamin George Owens

Ganwyd ym Mhenycaemain, Llangadog, Sir Gaerfyrddin, 1 Awst 1790. Aeth i ffwrdd yn ifanc iawn gyda'i frawd i weithiau haearn Dowlais, Penydarren, a'r 'Plymouth,' gan ymaelodi gyda'r Bedyddwyr yng nghapel Seion, Merthyr Tydfil. Cymhellwyd ef yno i ddechrau pregethu, ac yn Ebrill 1810 fe'i derbyniwyd i athrofa'r Fenni. Bu'n weinidog ym Mhenuel, ger Caerlleon-ar-Wysg (ac at hynny yn genhadwr cartref yn sir Fynwy) o 1813 hyd Ionawr 1816 ac yn eglwys Saesneg Bethany, Caerdydd, o hynny hyd ei farwolaeth, 17 Mai 1855. Gadawodd weddw a phedwar o blant, yn eu plith Rhys Jones, a fu'n faer Caerdydd ac yn ustus heddwch.

Bu hefyd yn cadw ysgol yn sir Fynwy a Chaerdydd, ond fel llenor a hanesydd enwadol y cyflawnodd ei waith pwysicaf. Ymddangosodd cyfres ddienw o'i ysgrifau yn Y Bedyddiwr, 1852, ar ' Hanes yr Eglwys Gristionogol '; cyfieithodd ddarnau helaeth o esboniad y Dr. Gill ar y Testament Newydd; ac ar gais cymanfa de-ddwyrain Cymru yn 1829 cyhoeddodd Hanes Cymmanfa y Bedyddwyr, 1831; ail arg., 1889.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.