KINSEY, WILLIAM MORGAN (1788 - 1851), clerigwr, teithiwr, ac awdur

Enw: William Morgan Kinsey
Dyddiad geni: 1788
Dyddiad marw: 1851
Rhiant: Caroline Hannah Kinsey (née Harington)
Rhiant: Robert Morgan Kinsey
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr, teithiwr, ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Teithio
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd yn y Fenni, mab Robert Morgan Kinsey, cyfreithiwr a bancer yn y dref honno, a'i wraig Caroline Hannah, merch Syr James Harington, barwnig. Cafodd ei addysg yn Rhydychen (ymaelodi 28 Tachwedd 1805, ysgolor yn Trinity College, B.A. 1809, M.A. 1813, B.D. 1822, cymrawd ei goleg 1815, deon 1822, is-lywydd 1823, ' bursar ', 1824). Yn 1827 bu'n teithio yn Portiwgal, a'r flwyddyn ddilynol cyhoeddodd lyfr a gyfrifid yn werthfawr am gyfnod, sef Portugal Illustrated: in a series of letters, embellished with a map, plates of coins, etc. (London, 1828; 2il arg. yn 1829). Bu wedyn yn teithio yn Belgium (gyda'r viscount Alford), a digwyddodd fod yn llygad-dyst o'r cythrwfl yn Brussels yn Awst 1830 ar adeg gwrthryfel. Tua'r flwyddyn 1832 (1831?) dewiswyd ef yn weinidog S. John's, Cheltenham, lle yr enillodd enw iddo'i hun fel pregethwr. Cyhoeddodd rai o'i bregethau, e.e. A sermon on the public advantages of social combinations founded on Christian principles (Cheltenham, 1831) a The Jubilee of the Bible; or, three hundredth anniversary of Coverdale's translation of the whole Bible … a sermon preached at … Cheltenham (London, 1835). Ceir erthygl ganddo yn y Gentleman's Magazine, Ionawr 1848. Yn 1843 cafodd ei ddewis yn rheithor Rotherfield Greys, sir Rydychen, lle y bu farw 6 Ebrill 1851.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.