LEWIS, BENJAMIN (bu farw 1749), emynydd

Enw: Benjamin Lewis
Dyddiad marw: 1749
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: emynydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth
Awdur: Moelwyn Idwal Williams

O Gasnewydd-ar-Wysg, sir Fynwy. Ychydig a wyddys amdano ef na'i yrfa. Yn 1750, blwyddyn ar ôl ei farw, cyhoeddwyd llyfryn yn dwyn y teitl, Tri Chyflwr y Cristion … a gymerwyd allan o'r Saesnaeg: At ba rai y chwanegwyd ychydig o Hymnau, neu Ganiadau Ysbrydol i ddifyrru'r Pererynion tra fyddont yn ymdeithio trwy Anialwch y Byd presennol ti a'r Ddinas Nefol. Argraffwyd y llyfryn hwn ym Mryste gan Sam. Farley, ac y mae iddo ddwy ran. Yn y rhan gyntaf ceir nifer o ddyfyniadau o'r Ysgrythur yn dangos 'tri Chyflwr' dyn: (1) 'Yn druenys wrth Natur'; (2) 'Yn gyssurys trwy râs'; (3) 'Yn orfoleddus mewn gogoniant.' Cynhwysa'r ail ddwy gyfres o emynau. Ar ddiwedd y gyfres gyntaf ceir enw yr awdur, Benjamin Lewis. Ni cheir yr un enw ar ddiwedd yr ail gyfres, ond gellir yn rhwydd dybio mai ef oedd ei hawdur. Bu farw yn 1749.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.