LEWIS, WILLIAM BEVAN (1847 - 1929), awdurdod ar anhwylderau'r meddwl

Enw: William Bevan Lewis
Dyddiad geni: 1847
Dyddiad marw: 1929
Rhiant: Jane Lewis (née Mansel Bevan)
Rhiant: William Thomas Lewis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: awdurdod ar anhwylderau'r meddwl
Maes gweithgaredd: Meddygaeth
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn Aberteifi 21 Mai 1847, yn fab i William Thomas Lewis (o Drefgarn ac Aberteifi) a'i wraig Jane Mansel (Bevan); addysgwyd yn Aberteifi ac yn Guy's Hospital. Bu'n feddyg yn Burry Port am bedair blynedd; yna ymunodd â staff y ' West Riding Asylum ' yn Wakefield, a bu'n aelod ohoni am 35 mlynedd - yn y diwedd, efe oedd y cyfarwyddwr. Bu hefyd mewn cyswllt â Phrifysgol Leeds am chwarter canrif, a chafodd gadair athro ynddi yn ei bwnc. Bu farw 14 Hydref 1929.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.