LEWIS (neu LEWES), DAVID (1520? - 1584), prifathro cyntaf Coleg Iesu, Rhydychen

Enw: David Lewis
Dyddiad geni: 1520?
Dyddiad marw: 1584
Rhiant: Lucy Wallis (née Lloyd)
Rhiant: Lewis Wallis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: prifathro cyntaf Coleg Iesu, Rhydychen
Maes gweithgaredd: Addysg
Awdur: Thomas Iorwerth Ellis

Ganwyd yn Abergafenni, mab hynaf Lewis Wallis, ficer Abergafenni a Llandeilo Pertholau, a Lucy ei wraig, merch Llewelyn Thomas Lloyd o Fedwellty. Addysgwyd ef yng Ngholeg All Souls, Rhydychen; graddiodd B.C.L., 1540, a D.C.L., 1548, a gwnaed ef yn gymrawd o'i goleg. Bu'n brifathro New Inn Hall, yn feistr yn y siawnsri, yn aelod seneddol dros Steyning ac yna dros sir Fynwy : yna, am flwyddyn (1571-2), yn brifathro Coleg Iesu. Er 1558 bu'n farnwr uchel lys y Morlys a bu'n flaenllaw gyda'r gwahanol achosion morwrol a gododd yn ystod oes Elisabeth. Awgrymodd hefyd foddion i wella cyflwr cynhyrfus rhai mannau o Gymru. Bu farw'n ddi-briod yn Llundain, 27 Ebrill 1584, a'i gladdu 24 Mai yn Abergafenni, ym mhen gogleddol yr eglwys, a elwir ar ei ôl.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.