LEWIS, DAVID (1683? - 1760), bardd a dramaydd

Enw: David Lewis
Dyddiad geni: 1683?
Dyddiad marw: 1760
Rhiant: Roger Lewis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd a dramaydd
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker

a aned yng Nghymru, ond a gafodd gryn enwogrwydd yn Lloegr. Ymddengys mai efe oedd mab Roger Lewis o Landdewi Efelffre, yn Sir Benfro, a ymaelododd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, 4 Ionawr 1698 (B.A. yn 1702). Efallai iddo fod ar un adeg yn is-athro yn Ysgol Westminster. Cyhoeddodd, yn 1726, Miscellaneous Poems by Several Hands; ynddo ceir cyfieithiadau o weithiau Martial, Horas, ac Anacreon, a cherdd bob un gan Dyer a Pope; ond ni ellir adnabod rhan Lewis yn y gyfrol. Yn 1726 cyhoeddodd Philip of Macedon, trasiedi ar fesur di-odl, a gyflwynwyd i Alexander Pope; fe'i chwaraewyd hi bedair gwaith, yn gyntaf yn Lincoln's Inn Fields yn 1727. Yn 1730 cyhoeddodd ail gasgliad, sef Collection of Miscellany Poems, a gyflwynwyd i'r iarll Shaftesbury. Ceir rhai o'i benillion annerch i Pope yn Collection of Pieces on the Occasion of the Dunciad (golygwyd gan Savage), 1732. Bu farw yn Low Leyton, Essex, yn Ebrill 1760, a chladdwyd ef yno. Yn ôl ei gofadail yr oedd ei wraig yn ferch i fasnachwr yn Leyton.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.