Ganwyd 16 Ionawr 1847, yn ail fab i John Lewis, clerigwr, yn Llanwyddelan. O ysgol Llanrwst, aeth yn 1865 i Goleg Iesu, Rhydychen. Rhoddwyd ef yn y dosbarth blaenaf yn ' Mathematical Moderations ' (1867), yn y ' Mathematical Schools ' (1868), ac mewn gwyddoniaeth (1869). Etholwyd ef yn 1872 yn gymrawd o Goleg Oriel - gan na phriododd, parhaodd (yn ôl yr hen drefn) i ddal ei gymrodoriaeth hyd ei farw, h.y. am 54 mlynedd. Wedi bod am ychydig yn athro ysgol, a bwrw ysbaid yng Nghaergrawnt yn astudio meini grisial, cafodd swydd (1875) yn yr Amgueddfa Brydeinig, ond rhoes hi i fyny yn 1877 yn herwydd afiechyd. Yn 1879, dychwelodd i Gaergrawnt i ddarlithio ar fwnofyddiaeth; yn 1880 ymaelododd yng Ngholeg y Drindod yno; ac yn 1881 etholwyd ef yn athro 'r pwnc hwnnw yn y brifysgol. Ni sgrifennodd lawer, ar wahân i'w werslyfr safonol A Treatise on Crystallography, 1899. Etholwyd ef yn F.R.S. yn 1909. Bu farw 16 Ebrill 1926.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Bu'n dysgu yng Ngholeg Cheltenham yn ystod 1870-71 ac am gyfnod o 1862 bu'n un o olygyddion y Messenger of Mathematics.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.