LEWIS, JOHN (yn fyw yn 1773), Crynwr ac awdur

Enw: John Lewis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Crynwr ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Thomas Mardy Rees

yn byw yn Hwlffordd, Sir Benfro. Ysgrifennodd Brief Observations on the History of Modern Enthusiasm, 1759, a chyfieithodd yn Gymraeg, dan y teitl Egwyddorion y Gwirionedd (Caerfyrddin, 1773), lyfr gan J. Crooksworth (Principles of Truth). Yr oedd yn ŵr o ddylanwad ymysg Crynwyr Sir Benfro.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.