LEWIS, MATHEW (1817? - 1860), gweinidog Annibynnol ac ysgrifennwr

Enw: Mathew Lewis
Dyddiad geni: 1817?
Dyddiad marw: 1860
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Annibynnol ac ysgrifennwr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Griffith Milwyn Griffiths

Ganwyd yn Llanidloes. Gwehydd oedd wrth ei alwedigaeth, ond cymhellwyd ef i fyned i'r weinidogaeth. Bu am rai blynyddoedd ym Môn fel ysgolfeistr a gweinidog ac yna fel gweinidog ym Mangor a Threffynnon. Ymddiswyddodd o'r weinidogaeth, ac aeth i Lerpwl fel is-olygydd Yr Amserau. Ymhlith ei gyfraniadau i'r papur hwn yr oedd dwy chwedl, 'Rhydderch Prydderch' a 'Y Ddwy Lili.' Ysgrifennodd hefyd erthyglau i'r Traethodydd. Ymadawodd â Lerpwl, a bu'n weinidog eglwys Annibynnol yn y Dref Newydd, Sir Drefaldwyn. Ymddiswyddodd eilwaith o'r weinidogaeth, ac ymunodd â'r fyddin. Bu farw yn China yn 1860, 'yn 43 oed.'

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.