LEWIS, RICHARD MORRIS (1847 - 1918), ysgolhaig a llenor

Enw: Richard Morris Lewis
Dyddiad geni: 1847
Dyddiad marw: 1918
Rhiant: Leisa Lewis
Rhiant: John Lewis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolhaig a llenor
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: John Oliver Stephens

Ganwyd 1847 yn Forest Arms, Brechfa, Sir Gaerfyrddin, mab John a Leisa Lewis. Daeth yn brif glerc yn swyddfa'r Inland Revenue yn Abertawe. Bu'n ddiwyd yn cyfieithu emynau i'r iaith Gymraeg (ceir enghreitfftiau yn rhai o'r llyfrau emynau) a darnau, mewn mydr, o ' Iliad ' Homer, ond efallai mai ei waith gorau fel cyfieithydd yw ei drosiad o Elegy Gray. Bu farw 20 Medi 1918, a chladdwyd ef ym mynwent Brechfa. Y mae rhai o'i lawysgrifau yn Ll.G.C. (NLW MS 2249B , NLW MS 2250B ).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.