LEWIS, CHARLES PRYTHERCH (1853 - 1923), mabolgampwr amryddawn

Enw: Charles Prytherch Lewis
Dyddiad geni: 1853
Dyddiad marw: 1923
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: mabolgampwr amryddawn
Maes gweithgaredd: Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: Moelwyn Idwal Williams

Ganwyd 20 Awst 1853 yn fab i Frederick Lewis, Llwyncelyn, Llanwrda (Caerfyrddin), ac addysgwyd yn Ysgol Llanymddyfri ac yng Ngholeg Iesu, Rhydychen. Graddiodd yn 1876, a bu'n athro yn ei hen ysgol am flynyddoedd lawer. Ond mewn chwaraeon yr enillodd enw yn Rhydychen; yr oedd yn ' triple Blue ' yno, oblegid cynrychiolodd ei brifysgol yn y ras glwydydd (hurdle race), yn bwrw'r morthwyl, ac ar y maes criced. Cafodd gynnig unwaith i chwarae dros y M.C.C. yn Awstralia, ond ni allai fynd. Heblaw hyn oll, yr oedd yn gefnwr da ar y maes Rygbi, a bu'n cynrychioli Cymru bump o weithiau rhwng 1882 a 1884. Yn ddiweddarach, troes ei gefn ar waith ysgol a mynd yn gyfreithiwr, a daeth yn ŵr amlwg (yn faer ddwywaith, ac yn ustus) ym mywyd cyhoeddus Llanymddyfri. Bu farw 27 Mai 1923.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.