Ganwyd yn 1828 yn Twyn Cynordy, ger Brynmawr, sir Frycheiniog, mab William Lewis, a oedd yn gerddor lled dda ac yn arweinydd y canu yng nghapel Nebo, Penycae. Cafodd wersi cerddorol gan ei dad a chan gerddor o Sir Benfro a ddaeth i fyw i'r ardal. Dygwyd ef i fyny yn ysgolfeistr, a bu am ddwy flynedd yng Ngholeg Borough Road, Llundain. Bu'n cadw ysgol yn y Blaenau, Mynwy, ac oddi yno symudodd i Gaerdydd. Yr oedd yn gerddor galluog, yn arweinydd medrus, a llafuriodd yn ddyfal i ddyrchafu chwaeth a meithrin cerddoriaeth glasurol yng Nghaerdydd a'r cylch. Ffurfiodd y ' Cardiff Philharmonic Society,' a rhoddodd amryw berfformiadau o weithiau cerddorol y meistri. Bu'n arwain seindorf hefyd am dymor hir. Yr oedd yn chwaraewr da ar y ffidil. Cyfansoddodd amryw ddarnau cerddorol a chyhoeddwyd ei anthem, ' Arglwydd, gollwng, ' yn Y Gerddorfa, rhifau 76 a 77. Yr oedd wedi dethol a chasglu tonau at wasanaeth y Bedyddwyr, ond ni chyhoeddwyd y llyfr. Bu farw 14 Rhagfyr 1880.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.