Ganwyd ym Mhenderyn, 15 Mehefin 1860. Oherwydd ei fod yn blentyn gwannaidd ei iechyd ni chafodd fanteision addysg fore. Dechreuodd ymddiddori mewn cerddoriaeth, a dysgodd ganu'r piano. Bu'n dilyn dosbarthiadau Joseph Parry a David Evans yng Nghaerdydd. Penodwyd ef i ganu'r organ yng nghapel Penuel, Ferndale, a Bethania, Maerdy, wedi hynny. Cyfansoddodd lawer o donau ac opera 'Caradog' a'r 'Resurrected Life.' Bu canu mawr ar ei dôn 'Nasareth' ar yr emyn 'Dros bechadur buost farw' yn niwygiad crefyddol 1904-5. Bu farw 17 Mehefin 1920 yn Ferndale, a chladdwyd ef ym mynwent gyhoeddus Ferndale.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.