LEWIS, RICHARD (1817 - 1865), awdur

Enw: Richard Lewis
Dyddiad geni: 1817
Dyddiad marw: 1865
Rhiant: Rebecca Lewis
Rhiant: Thomas Lewis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: awdur
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Meddygaeth
Awdur: Griffith Milwyn Griffiths

Ganwyd 21 Mehefin 1817 mewn tyddyn o'r enw Yr Ysgol ym mhlwyf Llandegfan, Môn, yn fab i Thomas a Rebecca Lewis. Yn 1831 prentisiwyd ef fel dilledydd a groser ym Mangor. Ar ôl treulio peth amser mewn amryw ddinasoedd, a phedair blynedd (1840-4) yn Llundain, ymsefydlodd fel fferyllydd ym Modedern, Môn, yn 1844. Cyfrannodd lawer o erthyglau i'r Traethodydd ar hynafiaethau Môn, a chyhoeddwyd cyfrol o'i farddoniaeth dan y teitl Y Rhosyn. Bu farw 2 Mawrth 1865.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.