LEWIS, TIMOTHY RICHARDS (1841 - 1886), llawfeddyg, clefydegydd, ac un o arloeswyr meddygaeth drofannol

Enw: Timothy Richards Lewis
Dyddiad geni: 1841
Dyddiad marw: 1886
Priod: Emily Frances Lewis (née Brown)
Rhiant: Britania Lewis (née Richards)
Rhiant: William Lewis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llawfeddyg, clefydegydd, ac un o arloeswyr meddygaeth drofannol
Maes gweithgaredd: Meddygaeth
Awdur: Evan David Jones

Ganwyd yn yr Hafod, plwyf Llangan, Sir Gaerfyrddin, 31 Hydref 1841, yn blentyn hynaf William Lewis a Britania (Richards) ei wraig. Ym mhlwyf Crinow, Sir Benfro, y magwyd ef, a chafodd ei addysg fore yn Ysgol Genedlaethol Arberth ac yn ysgol ramadeg Joseph a William Edward Morris yn yr un dref. Prentisiwyd ef yn 15 oed gyda fferyllydd yn Arberth, ond wedi pedair blynedd aeth i Lundain at fferyllydd yn Streatham. Oddi yno, ymunodd ag adran fferyllol yr ysbyty Ellmynig yn Dalston, lle y cafodd gyfle i ddysgu Almaeneg a dechrau ar astudiaethau meddygol. Mynychodd ddosbarthiadau Coleg y Brifysgol, 1863-6, a dyfarnwyd medal arian Fellowes iddo yn 1866. Graddiodd yn M.B. (gydag anrhydedd) a C.M. yn Aberdeen yn 1867. Y flwyddyn wedyn yr oedd ar ben rhestr efrydwyr Ysgol Feddygol y Fyddin yn Netley wrth ymaelodi ac ymadael. Penodwyd ef yn llawfeddyg cynorthwyol yn y fyddin. Yn 1868 penderfynwyd danfon Lewis ac efrydydd arall i astudio damcaniaethau gwyddonwyr yr Almaen ar achosion colera ac i'w gosod ar brawf yn yr India. Felly yr aeth i'r India yn Ionawr 1869, ar ôl treulio rhai misoedd yn yr Almaen. Am ryw bum mlynedd bu'n astudio problemau ynglŷn â cholera. Yn 1874 gwnaethpwyd ef yn gynorthwywr arbennig i'r Comisiynydd Iechydol, a helaethwyd maes ei ymchwil i gynnwys y gwahanglwyf a chlefydau dwyreiniol eraill. Yn 1870 darganfu Lewis drychfilyn a alwyd ganddo yn ' Filaria sanguinis hominis,' a elwir yn awr yn ' Wuchereria bancrofti.' Yn 1877, darganfu drychfilyn arall yng ngwaed llygod mawr, ac erys ei enw ar hwn, sef ' Trypanosoma lewisi.' Gadawodd yr India yn Ionawr 1883 i gymryd swydd athro cynorthwyol mewn clefydeg yn Netley, ond cadwodd mewn cyswllt agos â Llywodraeth yr India, gan ei chynrychioli mewn cynadleddau cydwladol ar broblemau iechydol. Yn 1884-5 galwyd arno eto i ailafael yn ei ymchwil i achosion colera, ac i astudio damcaniaeth Robert Koch a ddarganfuasai'r ' comma-bacillus.' Ef oedd ysgrifennydd y pwyllgor gwyddonwyr a ddewiswyd i gloriannu'r ddamcaniaeth yn 1885. Cafwyd fod pwysau'r dystiolaeth ar y pryd yn erbyn damcaniaeth Koch, ond parhaodd Lewis i astudio'r broblem. Ym mis Ebrill 1886, cymeradwywyd ei enw i gael ei ethol yn F.R.S., ond cyn yr etholiad yr oedd ef wedi syrthio'n ysglyfaeth i un o'r meicrobau y bu'n eu holrhain mor ddiwyd. Bu farw 7 Mai 1886, a chladdwyd ef yn Netley. Erys ei adroddiadau yn glasuron mewn bacterioleg. Cyhoeddwyd cyfrol goffa (In Memoriam) iddo yn 1888.

Y mae ei lawysgrifau yn y Llyfrgell Genedlaethol (NLW MS 14381A , NLW MS 14382A , NLW MS 14383A , NLW MS 14384A , NLW MS 14385A , NLW MS 14386C , NLW MS 14387B , NLW MS 14388B , NLW MS 14389B , NLW MS 14390E , NLW MS 14391E , NLW MS 14392E , NLW MS 14393B , NLW MS 14394B , NLW MS 14395E , NLW MS 14396E , NLW MS 14397C , NLW MS 14398E , NLW MS 14399C , NLW MS 14400B , NLW MS 14401B ).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.