LEWIS, WILLIAM (1814 - 1891), cenhadwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac ieithydd

Enw: William Lewis
Dyddiad geni: 1814
Dyddiad marw: 1891
Priod: Mary Lewis (née Roberts)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cenhadwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac ieithydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Evan Lewis Evans

Ganwyd ym Manceinion, ond yr oedd ei rieni yn Gymry o'r ddwy ochr. Rhoes ei fryd ar fynd yn genhadwr i China o dan Gymdeithas Genhadol Llundain. Derbyniwyd ef i Goleg y Methodistiaid yn y Bala yn 1839, ac ordeiniwyd ef yn 1842 i faes cenhadol newydd y Methodistiaid yn yr India. Priododd Mary Roberts, o Dywyn, Meirionnydd, a chyrhaeddodd y ddau Fryniau Khasia yn Ionawr 1843, gan lafurio tan 1846 cyn derbyn neb trwy fedydd. Cyhoeddodd nifer o lyfrau yn yr iaith frodorol, a chanlynodd ar gyfieithu 'r Testament Newydd o Marc hyd Datguddiad. Rhwng ei briod ac yntau, troswyd Taith y Pererin i'r iaith honno. Dychwelodd am seibiant yn 1861, gan i'w iechyd ballu, ond ni allodd fynd yn ôl drachefn, a'i ran wedyn fu diwygio'r Ysgrythurau a chyfoethogi llên Khasia. Bu farw yn Wrecsam 6 Mai 1891.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.