LEWIS, WYNDHAM (1780 - 1838), A.S.

Enw: Wyndham Lewis
Dyddiad geni: 1780
Dyddiad marw: 1838
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: A.S.
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Mab i'r Parch. Wyndham Lewis, o Greenmeadow, Tongwynlais, Sir Forgannwg; ganwyd 7 Hydref 1780. Bu'n aelod seneddol dros Gaerdydd 1820-6, dros Aldeburgh (Suffolk), 1827-30, a thros Maidstone o 1835 hyd ei farwolaeth, 14 Mawrth 1838. Fe'i cofir am i'w weddw, yn 1839, ddod yn wraig i Benjamin Disraeli.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.